Inc yr Awen a'r Cread - Cerddi Byd Natur

Cyhoeddiadau Barddas author Rhys Dafis editor

Format:Hardback

Publisher:Cyhoeddiadau Barddas

Published:17th Mar '22

Should be back in stock very soon

Inc yr Awen a'r Cread - Cerddi Byd Natur cover

A collection of poetry that celebrates and reflects on the natural world around us and its influence on us through poetry and images. There are a number of brand new poems and some old favourites - all combined with colourful photographs to illustrate nature at its best.

Cynhelir lansiad rhithiol yng nghwmni Rhys Dafis a Gerallt Pennant ar 25ain o Fawrth. Cysylltwch gyda [email protected] am fwy o wybodaeth. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Teitl y bennod olaf yn y gyfrol hon o gerddi yw ‘Y Bod Dynol a Natur’. Ond mewn gwirionedd dyma yw hanfod y casgliad cyfan. Drwy lygaid, a thrwy eiriau rhyw hanner cant o feirdd gwahanol cawn flas ar yr amryfal ffyrdd y mae pobl wedi gweld a chanfod y byd o’u cwmpas dros y blynyddoedd; cawn rannu hefyd rai o’r meddyliau a’r emosiynau sydd wedi eu sbarduno drwy ddod i gysylltiad, mewn rhyw ffordd, â natur. Wrth fynd ati i greu casgliad o gerddi Cymreig eu hiaith a’u naws sy’n ymdrin â byd natur roedd y golygydd yn awyddus i sicrhau amrywiaeth a fyddai’n apelio at bob oedran. Roedd yn fwriad hefyd i adlewyrchu agweddau amrywiol pobl tuag at ein hamgylchedd – o ryfeddod i dristwch, ac o edmygedd i ddifaterwch – yn ogystal â phriodweddau’r byd naturiol sydd mor aml yn ddrych arnom ni ein hunain. Mae cyfraniadau newydd gan feirdd cyfoes yn ychwanegu’n fawr at y casgliad, nid yn unig o ran testunau’r cerddi, gyda rhywogaethau mwy annisgwyl fel gwymon, morloi a phry’r lludw yn cael sylw, ond hefyd o ran natur y canu a’r parodrwydd i fynegi ystod o deimladau personol a gwleidyddol am ein perthynas gyda’n gilydd a hefyd gyda’r amgylchedd sy’n rhan o’n bywydau. Dewis anodd, a phersonol iawn yw creu categorïau ar gyfer casgliad fel hwn. Mae’r gyfrol yn dechrau gyda grymoedd a ffenomenâu mawr y bydysawd; cawn ein cyflwyno wedyn i sypiau o gerddi sydd wedi eu rhannu fesul cynefin neu yn ôl gwahanol fathau o rywogaethau, cyn cyrraedd y bennod derfynol â’i phwyslais bwriadol ar bobl a’u perthynas â’r ddaear. Serch hynny, gallai rhywun fynd ati i werthfawrogi’r cerddi mewn ffyrdd eraill. Darllen a dehongli’r cerddi o safbwynt yr hyn yr oedd y beirdd yn ceisio ei fynegi a’i gyfleu roddodd y boddhad mwyaf i mi. Mae nifer o’r cerddi yn llwyr ddisgrifiadol ac mae rhywun yn rhyfeddu at ddawn beirdd i greu naws lle a chreu cyffebyliaethau trawiadol sy’n gallu gwneud i chi feddwl mewn ffyrdd newydd am bethau cyfarwydd. Mewn cerddi eraill fe sylweddolwn fod y profiadau o weld a chyffwrdd elfennau gwahanol o’r amgylchedd yn esgor ar deimladau a myfyrdodau pellach – am ein hagweddau at fywyd gwyllt, am gymhlethdodau perthynas rhwng pobl, am ein lle ni ar y blaned hon a’r ffordd yr ydym yn ei thrin. Ac ambell waith hefyd mae’r cerddi’n hollol drosiadol, fel yn achos cerdd Huw Erith am fewnlifiad y crancod coesgoch. Mae diwyg y gyfrol mor amryliw â’r geiriau, gyda ffotograff yn hebrwng pob cerdd a’r tudalennau, yn eu cyfanrwydd, yn bob lliw dan haul. Mae maint a theimlad y llyfr yn braf, o ran ei ddal a’i ddarllen, ac mae’n siŵr y gall pawb gytuno, ar ôl pori ymhlith y cerddi, fod y casgliad yn tanlinellu’r berthynas annatod rhwng pobl a byd natur, ac yn dangos hefyd fod yna ryfeddodau newydd i’w gweld a’u profi bob dydd, dim ond i ni ddewis sylwi arnyn nhw. -- Elinor Gwynn @ www.gwales.com

ISBN: 9781911584551

Dimensions: 200mm x 200mm x 16mm

Weight: unknown

144 pages