Rhuddin
Ymddiddan y Corff a'r Enaid
Laura Karadog author Luned Aaron illustrator
Format:Hardback
Publisher:Cyhoeddiadau Barddas
Published:26th Sep '21
Should be back in stock very soon
An original and unique volume in the Welsh language presenting essays and brand new poems on themes relating to yoga and mindfulness.
Geiriau o Lyfr Du Caerfyrddin sydd yn yr isdeitl, ac adlais o gerdd gan Waldo ac o lythyr Paul at y Rhufeinaid yn y prif deitl, ond rhwng y tudalennau, geiriau'r awdur, yn dyner, glir a gonest sydd yma, yn trafod pynciau sy'n gysylltiedig â yoga a meddylgarwch – disgyblaethau sy'n blodeuo ac yn cynyddol fagu cydnabyddiaeth a pharch yn ein cymdeithas, wrth i iechyd holistaidd hawlio ein sylw yng nghyd-destun effeithiau'r pandemig. Mae yma gyfeirio at synnwyr greddfol nifer fawr ohonom, a “[b]od llawer o'r atebion yr ydym ni'n chwilio amdanynt i'w canfod y tu mewn i ni'n hunain, ac nid ar y tu allan”. Noda’r awdur mai ceisio rhoi blas yw ei bwriad, “a hynny mewn geiriau sy'n gyfarwydd i ni fel Cymry sy'n siarad Cymraeg”. Ceir penodau ar themâu gwreiddio, caredigrwydd, anadlu, egni, bodlonrwydd, ildio, myfyrio, a gorffwys. Mae patrwm i bob pennod: darlun lliw, pennill, trafodaeth, pennill, ac ymarferiad. Ar gyfer pob thema cyflwynir trafodaeth fer ar y pwnc gan gyfuno eglurhad gwyddonol ac athronyddol â phrofiadau a chyd-destun personol sy'n creu naws gartrefol, esmwyth a chroesawgar i'r darllenydd. Trysorau'r gyfrol hon yw'r nifer o gerddi cain gan feirdd cyfoes, a hefyd gerddi gan fawrion ein cenedl, Waldo Williams a Dic Jones. I bob thema mae lliw gwahanol, caredig i'r llygad, o blith lliwiau'r ddaear, a darluniau gan Luned Aaron yn fynegiant gweledol trawiadol i'r pwnc dan sylw. Mae'r ymarferion yn addas i bawb, ac yn cyfuno technegau yoga a meddylgarwch megis ‘ystum y mynydd’, myfyrdod caredigrwydd cariadus, arafu'r anadl, dod o hyd i'r egni, diolchgarwch, hunanholi, sganio'r corff, yoga adferol a yoga nidra. Os yw'r geiriau o iaith Sanskrit yn peri ychydig o benbleth, mae geirfa ddefnyddiol a diddorol yng nghefn y gyfrol yn egluro ystyr geiriau fel tadasana, sef “Enw'r iaith Sanskrit ar ystum a adwaenir fel 'Ystum y Mynydd' wrth ymarfer yoga. Mae'n gyfuniad o'r geiriau tada 'mynydd' ac asana 'sedd' neu 'ystum'.” Ar y dudalen flaen ac yn y llyfryddiaeth a'r rhestr darllen pellach yng nghefn y gyfrol cyfeirir at gyfieithiad Cymraeg ‘Y Fendigaid Gân’ gan yr Athro Cyril G. Williams o destun clasurol y Bhagavad Gītā. A dyma osod y gyfrol hon mewn llinach brin o drysorau ym maes yoga a meddylgarwch yn y Gymraeg. Dyma wedd gynhenid Gymreig, flasus iawn, ar bwnc a gysylltir yn arferol â'r Dwyrain. Bydd yn adnodd gwerthfawr tu hwnt i holl ymarferwyr yoga a meddylgarwch, i athrawon ac arweinwyr yn y maes, ac i bob un sydd yn mwynhau ymddiddan ynghylch “ein hanfod, ein craidd a'n rhuddin”. -- Mair Jones @ www.gwales.com
ISBN: 9781911584513
Dimensions: unknown
Weight: unknown
96 pages