DownloadThe Portobello Bookshop Gift Guide 2024

Y Gynghanedd Heddiw

Cyhoeddiadau Barddas author Eurig Salisbury editor Aneirin Karadog editor

Format:Paperback

Publisher:Cyhoeddiadau Barddas

Published:11th Dec '20

Should be back in stock very soon

Y Gynghanedd Heddiw cover

An appealing, easy to read volume comprising a variety of essays, edited by Aneirin Karadog and Eurig Salisbury, celebrating the continuity and richness of 'cynghanedd' (Welsh strict metre) in current day Wales.

Weithiau, ymagweddir at y gynghanedd fel petai’n rhyw hanfod dirgel, anghyffwrdd nad oes ond ychydig iawn o bobl yn gallu ei gwir drin a’i deall. Rydym yn gyfarwydd â’r trafodaethau hynny ar y gynghanedd sy’n drwm gan y fath ymgyfrinio niwlog: oni chlywir rhai’n honni, o bryd i’w gilydd, taw’r gynghanedd yw penllanw a chraidd cynhysgaeth lenyddol y Gymraeg, onid nod amgen y cyfan? Neu ei bod yn rhyw fath o berffeithrwydd dwyfol y mae’n rhaid ymgrymu ger ei fron gyda pharchedig ofn? Mae’r gyfrol hon, diolch byth, yn tasgu peth dŵr oer rhesymol ar agweddau o’r fath, yn ogystal â chynnig cyfoeth o drafodaethau o sawl cyfeiriad a sawl disgyblaeth. Ceir detholiad eclectig o ymdriniaethau, yn ysgrifau beirniadol a phytiau mwy sgyrsiol eu naws, ac felly ni welir y fath uniongrededd ymosodol sydd wedi amharu ar drafodaethau ar y gynghanedd yn y gorffennol. Mae’r ysgrifau beirniadol yn cwmpasu sawl maes. Ceir ambell ymdriniaeth hanesyddol: barddoniaeth gaeth y cyfnod modern cynnar; golwg ar ramadegau’r beirdd hyd at John Morris-Jones; a Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr. Ceir ysgrif ddiddorol ar y gynghanedd a’r Llydaweg. Ond yr ysgrifau beirniadol mwyaf trawiadol a buddiol yn y gyfrol hon yw’r rheiny sy’n ymhél â theori lenyddol a chymdeithasegol mewn rhyw fodd neu’i gilydd; ac fel y gwyddys, prin fu ymdriniaethau o’r fath â’r gynghanedd, o leiaf ar lefel boblogaidd. Mae yna ysgrif bwysig gan Grug Muse sy’n olrhain llinach barddoniaeth gaeth gan fenywod, a hefyd yr agweddau cul a wnaeth eu hallgáu o’r sin gynganeddol, a hynny hyd nes yn ddiweddar iawn – os nad hyd y dydd hwn. Dengys sut mae’r sin – a’i thriniaeth o fenywod – yn ganlyniad dethol bwriadol gan y rheiny sy’n meddu ar rym, ac nid oes dim ‘naturiol’ yn ei chylch. A dadlennol yw ysgrif Tudur Hallam ar ddamcaniaethu R. M. Jones ynghylch y gynghanedd. Amlyga’r fath feddwl beirniadol, gwreiddiol a gaed ynghylch y gynghanedd, er bod y cyfryw feddwl wedi cael ei anwybyddu neu ei ddrwgdybio gan y sefydliad ceidwadol, i raddau helaeth. Mwynheais hefyd ysgrif Mererid Hopwood sy’n mentro cysylltu’r gynghanedd, fel cyfundrefn acennol, ag iaith ei hun – sef â gramadeg ei hun. Yn hynny o beth, cawn olwg ar y gynghanedd fel rhywbeth ‘syml’ a ‘chynhenid' sy’n llechu yn lleferydd pawb, yn hytrach na’r dethol rai yn unig. Dyma gyfrol sy’n cynnig digon i bori arno. -- Morgan Owen @ www.gwales.com

ISBN: 9781911584391

Dimensions: unknown

Weight: unknown

196 pages