DownloadThe Portobello Bookshop Gift Guide 2024

Cyfres Tonfedd Heddiw: Eiliad ac Einioes

Casia Wiliam author

Format:Paperback

Publisher:Cyhoeddiadau Barddas

Published:27th Jul '20

Should be back in stock very soon

Cyfres Tonfedd Heddiw: Eiliad ac Einioes cover

Her first volume of poetry for adults by Casia Wiliam, comprising sensitive poems responding to the brittleness of life and the passage of time - from the first sweet kiss that disappears in a second to the mystical feelings that stay with us forever.

Mae popeth am gyfrol farddoniaeth gyntaf Casia Wiliam yn gryno, o faint y llyfr a hyd mwyafrif y cerddi i deitlau’r cerddi hynny. Ond crynoder llawn sylwedd yw ei hanfod. Eiliad ac Einioes yw’r ddiweddaraf i’w chyhoeddi yn y gyfres Tonfedd Heddiw Barddas sydd, dros y blynyddoedd, wedi rhoi llwyfan i leisiau beirdd ifanc â rhywbeth i’w ddweud a’r ddawn i’w ddweud yn gofiadwy. Ond dywed Casia yn ei chyflwyniad i’r cerddi hyn – 35 ohonynt – ei bod wedi cymryd cryn amser iddi hi fagu’r plwc i gyhoeddi ei chasgliad cyntaf, er bod ganddi sylfeini i ymfalchïo ynddynt. Bu’n aelod cynhyrchiol o dîm Y Ffoaduriaid ar Y Talwrn am rai blynyddoedd a hi oedd Bardd Plant Cymru 2017–19. Yn ystod y cyfnod hwnnw dangosodd fod ganddi’r ddawn ddiamheuol i ysbrydoli plant yn ogystal ag i gyffwrdd calonnau o bob oed drwy ei hawen. Clywn awgrym o feirniadaeth nawddoglyd weithiau wrth i ambell un ddefnyddio’r ansoddair ‘domestig’ i ddisgrifio darn o lenyddiaeth. Ond onid wrth ein traed, yn y manion bob dydd, y gwelwn ni fywyd a’i holl gymhlethdodau yn eglurach nag yn unman arall? Mae mwyafrif y cerddi yn y gyfrol hon â’u gwreiddiau yn y tir ffrwythlon hwnnw, fel y gerdd i ‘Nain Fron Olau’ lle mae gwylio dillad yn sychu ar y lein yn dwyn i gof hanes brwydr nain y bardd â dementia, ac yn cynrychioli cyfle i’w hwyres bellach weld patrymau gwreiddiol y dillad fu’n ‘poetsio’i gilydd’ yn ystod y salwch creulon: ‘Blows, yn gwmni ac yn gapel i gyd,/ a choban efo ogla straeon nos da/ yn dal i swatio ynddi.’ Ciplun cynnes o sgwrs rhwng ei gŵr a’u mab hynaf, yn ei ail iaith, a gawn ni yn ‘Pupur Coch’: ‘Mae wedi creu stori sy’n pefrio yn y llygaid teirblwydd’. Nid fod y profiad o fagu plant yn fêl i gyd. Mae'n hen thema, ond mae delweddau Casia yn y gerdd ‘Dileu’ yn ffres ac yn cyfleu’r ymdeimlad o golli hunaniaeth oherwydd gofynion babi ifanc i’r dim: ‘Pan fydda i’n estyn bron yn lle beiro,/ yn gwthio coetsh yn lle reidio beic,/ yn trafod Calpol yn lle straeon nos Sadwrn.’ Ar y llaw arall mae ei hymateb cadarnhaol, er gwaethaf ei blinder, i’r cwestiwn ‘Tisio chwarae efo fi, Mam?’ yn chwerw felys oherwydd ei hymwybod o dreigl amser, tra bod teimlo ei hail blentyn yn cicio yn y groth drannoeth Etholiad Cyffredinol 2019 yn ysbrydoliaeth iddi hithau gicio yn erbyn y tresi gwleidyddol. Portread cynnil o’r hen ddywediad ‘Drwy gicio a brathu mae cariad yn magu’ a gawn yn ‘Brwnt’ lle mae tynerwch yn llenwi’r bylchau rhwng llinellau ‘Llonydd’, toc wedi ffrae rhwng dau, a’i defnydd crefftus o ddelweddau: ‘Rwyt ti’n dangos ffawydden i mi,/ ei mes, ei dail main,/ dy lais yn dawel/ fel yr egwyl rhwng penillion emyn.’ Mae mwy nag un gerdd yn sôn am effaith llesol ymwneud â byd natur, fel ‘Nofio milltir’ a ‘Cae Pawb’, er enghraifft. Yn yr olaf mae’r bardd yn croesawu’r cyfle i ‘drafod y diwrnod/ efo ’nwylo’. Dotiais at y disgrifiad o sŵn y beic wrth iddi deithio i’r rhandir: ‘Y tsiaen yn udo, a’r sŵn newid-gêr-dolur-gwddw/yn rhygnu’. A hithau wedi gweithio i elusennau fel Oxfam yn y gorffennol ac yn gweithio bellach i’r Disaster Emergency Committee (DEC) daw cydymdeimlad y bardd â’r rhai sy’n dioddef amgylchiadau byw dirdynnol mewn sawl rhan o’r byd i’r golwg mewn nifer o’r cerddi eraill. Dyna ‘Daeargryn’, er enghraifft, sy’n cyferbynnu lluniau o drychineb Nepal a wêl ar sgrin deledu mewn ystafell aros ysbyty â’r darlun sgan o’i phlentyn yn y groth yn fuan wedyn: ‘Mae dagrau’n cosi fy nghlustiau/ wrth i’r ddaear grynu.’ Trawiadol hefyd yw’r cyferbyniad rhwng llawnder y Gorllewin a thlodi llwglyd y Trydydd Byd yn ‘Cacen’. Cerdd gomisiwn ar ffurf rhigwm ac yn llais plentyn yw’r ‘Ti’ teimladwy sy’n dathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed. Ac mor addas, o ystyried naws gyffredinol y gyfrol hon, mai ‘Darnau bach, darlun mawr’ yw teitl cerdd gomisiwn arall sy’n dathlu canmlwyddiant sefydlu elusen Achub y Plant. Os bu ‘neuadd fawr rhwng cyfyng furiau’ erioed, yn sicr mae i’w chael yn helaeth rhwng cloriau cryno Eiliad ac Einioes. -- Annes Glynn @ www.gwales.com

ISBN: 9781911584377

Dimensions: unknown

Weight: unknown

56 pages