Rhwng Teifi, Dyfi a'r Don
Cyhoeddiadau Barddas author Iestyn Hughes illustrator Idris Reynolds editor
Format:Hardback
Publisher:Cyhoeddiadau Barddas
Published:22nd Mar '21
Should be back in stock very soon

The beauty of Ceredigion has inspired many poets over the years, and this new volume comprises poems by various poets who sing about the county: the locations, buildings and people that have formed this incredible county with its rich culture. Photographs by Iestyn Hughes complement the text, creating a very appealing volume.
Sut mae rhywun yn mynd ati i gwmpasu Ceredigion mewn cyfrol o gerddi? Gellid llenwi cyfres gyfan o gyfrolau yn hawdd, ond rhaid gosod y ffin yn rhywle, neu fe fyddwn fel y mapiwr enwog Jorge Luis Borges a wnaeth, yn ei awydd i gofnodi ei diriogaeth yn ei holl fanylion, greu map mor fawr â’r diriogaeth ei hun, nes bod dim gwahaniaeth rhyngddynt. Ni chwympir i fagl gorymdrechu fan hyn, a cheir amrywiaeth o destunau sy’n rhychwantu bron iawn bob cornel o’r sir. Nid cerddi amlwg yn unig a geir, a cherddi gorau’r gyfrol yw’r rhai anghasgledig a’r rheiny gan feirdd nad ydynt o reidrwydd yn enwau sefydledig nac yn brifeirdd. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae cyfraniad Damian Walford Davies, sef detholiad o’r casgliad o gerddi ‘Terfysg’. Mae’r gerdd gartograffig gyntaf – ‘Map (Arolwg Ordnans Rhif 198)’ – yn ymgorffori gweledigaeth dir-gofleidiol y gyfrol wrth sôn am ‘map yn blingo gwlad / hyd esgyrn ei chlogwyni, / hyd rydweli ffordd, / gwythïen meidr’. Canys ‘ar y tipyn papur hwn / mae cyfrinachau’: dehongliad yw map, wedi’r cyfan, gan nad oes modd cynnwys pob un peth. Rhaid dethol. Ond wrth i brofiad, hanes a daearyddiaeth gydgyfarfod ar y papur, rywle rhyngddynt fe ffurfir ‘cwlwm carennydd’. Cefais flas neilltuol hefyd ar gyfraniad Iestyn Tyne, gyda’i ddwy gerdd fframiol ‘Cyrraedd Aber’ a ‘Gadael Aber’. Yn eu cynilder maent yn llwyddo i fynegi rhywbeth mawr. Wedi sylwgarwch rhestrgar y gerdd gyntaf (‘yr un yw’r plant ar risiau’r / capel, yr un yw’r sgyrsiau / wrth y drws; yr un / yw’r môr a’r adar mân’), gwelwn, erbyn ‘Gadael Aber’, ein bod ‘wedi dweud popeth sy’n weddill i’w ddweud’, gan fynd oddi yno wedyn fel ‘adar ar ffo’. Mae llawer o ofod rhwng y rhestru a’r llinellau moel yn y ddwy gerdd, a’r fath ofod sy’n dal orau naws unrhyw adael. Cyfoethogir y cerddi gan y ffotograffau, ac mae’r naill yn cynnig sylwebaeth ar y llall. Rhyngddynt mae rhywbeth amgenach yn datblygu, ac mae’r dull trawsgelfyddydol hwn yn sicrhau nad rhywbeth statig mo’r cerddi hyn, gan fod y darllenydd yn cyfryngu yn anorfod rhwng y testun a’r ddelwedd. Ac wrth gwrs, gan taw cyflwyno bro Ceredigion yw’r nod, mae’r ffotograffau’n hanfodol wrth sicrhau bod y gyfrol hon yn fwy na dim ond blodeugerdd: mae’n cyfuno Ceredigion y dychymyg (Ceredigion y cerddi) a Cheredigion ddiriaethol y camera (Ceredigion y dŵr a’r ddaear). Sut mae rhywun yn mynd ati i gwmpasu Ceredigion mewn cyfrol o gerddi? Gellid llenwi cyfres gyfan o gyfrolau yn hawdd, ond rhaid gosod y ffin yn rhywle, neu fe fyddwn fel y mapiwr enwog Jorge Luis Borges a wnaeth, yn ei awydd i gofnodi ei diriogaeth yn ei holl fanylion, greu map mor fawr â’r diriogaeth ei hun, nes bod dim gwahaniaeth rhyngddynt. Ni chwympir i fagl gorymdrechu fan hyn, a cheir amrywiaeth o destunau sy’n rhychwantu bron iawn bob cornel o’r sir. Nid cerddi amlwg yn unig a geir, a cherddi gorau’r gyfrol yw’r rhai anghasgledig a’r rheiny gan feirdd nad ydynt o reidrwydd yn enwau sefydledig nac yn brifeirdd. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae cyfraniad Damian Walford Davies, sef detholiad o’r casgliad o gerddi ‘Terfysg’. Mae’r gerdd gartograffig gyntaf – ‘Map (Arolwg Ordnans Rhif 198)’ – yn ymgorffori gweledigaeth dir-gofleidiol y gyfrol wrth sôn am ‘map yn blingo gwlad / hyd esgyrn ei chlogwyni, / hyd rydweli ffordd, / gwythïen meidr’. Canys ‘ar y tipyn papur hwn / mae cyfrinachau’: dehongliad yw map, wedi’r cyfan, gan nad oes modd cynnwys pob un peth. Rhaid dethol. Ond wrth i brofiad, hanes a daearyddiaeth gydgyfarfod ar y papur, rywle rhyngddynt fe ffurfir ‘cwlwm carennydd’. Cefais flas neilltuol hefyd ar gyfraniad Iestyn Tyne, gyda’i ddwy gerdd fframiol ‘Cyrraedd Aber’ a ‘Gadael Aber’. Yn eu cynilder maent yn llwyddo i fynegi rhywbeth mawr. Wedi sylwgarwch rhestrgar y gerdd gyntaf (‘yr un yw’r plant ar risiau’r / capel, yr un yw’r sgyrsiau / wrth y drws; yr un / yw’r môr a’r adar mân’), gwelwn, erbyn ‘Gadael Aber’, ein bod ‘wedi dweud popeth sy’n weddill i’w ddweud’, gan fynd oddi yno wedyn fel ‘adar ar ffo’. Mae llawer o ofod rhwng y rhestru a’r llinellau moel yn y ddwy gerdd, a’r fath ofod sy’n dal orau naws unrhyw adael. Cyfoethogir y cerddi gan y ffotograffau, ac mae’r naill yn cynnig sylwebaeth ar y llall. Rhyngddynt mae rhywbeth amgenach yn datblygu, ac mae’r dull trawsgelfyddydol hwn yn sicrhau nad rhywbeth statig mo’r cerddi hyn, gan fod y darllenydd yn cyfryngu yn anorfod rhwng y testun a’r ddelwedd. Ac wrth gwrs, gan taw cyflwyno bro Ceredigion yw’r nod, mae’r ffotograffau’n hanfodol wrth sicrhau bod y gyfrol hon yn fwy na dim ond blodeugerdd: mae’n cyfuno Ceredigion y dychymyg (Ceredigion y cerddi) a Cheredigion ddiriaethol y camera (Ceredigion y dŵr a’r ddaear). -- Morgan Owen @ www.gwales.com
ISBN: 9781911584353
Dimensions: unknown
Weight: unknown
104 pages