Desg Lydan
Format:Paperback
Publisher:Cyhoeddiadau Barddas
Published:21st May '20
Should be back in stock very soon
A volume of poems by Geraint Roberts of Cwmffrwd near Carmarthen, a talented poet of the strict metres of cynghanedd, and a familiar name as a winner in the National Eisteddfod volume of compositions and as a chaired bard at local eisteddfodau.
Gŵr o Rydgaled ger Aberystwyth yw Geraint Roberts, sydd bellach yn byw yn Sir Gâr. Bu’n dalyrnwr cyson ac enillodd nifer o gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys Ysgoloriaeth Emyr Feddyg, a chystadlaethau’r cywydd (2016) a’r englyn (yn Llanrwst y llynedd). Dechreuodd gynganeddu rhyw ugain mlynedd yn ôl dan gyfarwyddyd Alan Llwyd, ac yna Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood, a chael bod cynghanedd yn aml yn taflu geiriau at ei gilydd i greu syniadau a delweddau annisgwyl. Mae’n amharod i’w alw ei hun yn fardd, ond cewch fod llawer iawn o farddoniaeth yn y gyfrol hon. Does dim amheuaeth am ei grefft gynganeddol. Mi ddotiwch dro ar ôl tro at ei linellau trawiadol unigol, ei one liners, sy’n arddangos dawn y gynghanedd i grynhoi a llunio epigramau bachog, gan greu dwyster ingol: ‘Mae gwagle y lle yn llawn’, meddai wrth ymweld â chyn-siambr nwy yn Auschwitz; ‘Mae’r galar yn fyddarol’, wrth gofio Dai Rees Davies; neu, wrth glirio tŷ ei rieni: ‘Mae dyddiau dau wedi’u hel/i undydd yn un bwndel’; ac wrth goffáu Cymro Cymraeg twymgalon, ‘un yn llai o’r cyn lleied’. Drwy gydol y gyfrol daw’r angen i gofio a chofnodi’r cysylltiad byw rhwng ddoe a heddiw yn amlwg iawn. Mae coffáu pobl yn bwysig iddo – ceir cerddi i gyfoedion a fu farw’n blant ysgol, i’w ewythr a fu farw ar faes y gad, i enwau cyfarwydd fel Alun R. Edwards, T. Llew Jones, Osi Rhys Osmond, Amy Winehouse, John Lennon, ac i’w rieni yn ‘Llun’, cywydd sy’n allwedd i’r holl gyfrol. Llun o’i hen gartre sydd dan sylw, y bwthyn gwyn Cymraeg ei iaith. Ac yn ei ddull nodweddiadol o ddelweddu, dywed mai’r iaith yw muriau’r bwthyn, yn union fel y dywed yn ‘Landsker’, wrth gofio plentyn teirblwydd yn codi castell tywod yng nghlyw llond traeth o iaith estron, fod yr iaith yn gyfystyr â holl weithgaredd y bychan – ‘rhoi’r iaith mewn bwced a rhaw’ a wna. Wrth gofnodi a chofio, mae’n anorfod bod amser a newid yn sgil treigl amser yn dod yn themâu pwysig, yn ogystal â pharhad er gwaethaf treigl amser. Yn ‘Newid’, ystyria gapel sydd wedi ei droi’n dafarn, cofia orffennol y capel, a gweld bod ei orffennol yn aros, er y newid defnydd, oherwydd y cof amdano – ‘a salmau hen Suliau’n sêl/yn aros ar yr oriel’. Ac mae’r cofnodi’n rhan hanfodol o’r aros, o’r parhau. Yn ‘Etifeddiaeth’, cerdd i’w ewythr, David Samuel Roberts a laddwyd yn y Rhyfel Mawr, mae cofnod ym Meibl y teulu a llun ohono yn ei lifrai, yn dwyn i gof y ffas a’r cynaeafau a’r fynwent yn Ffrainc. Ond nid ar gofeb yn unig y mae ei enw, meddai’r bardd: ‘ei enw a naddwyd ynof'. Oherwydd y cofio a’r cofnodi, mae ei ewythr yn dal i fod, yn dal i fod ynddo fe. Mae’r myfyrdod yn parhau yn ‘Cuddio’, sy’n cofnodi y tro hwn ymweliad â’r fynwent yn Ffrainc yn 2018, adeg canmlwyddiant colli ei ewythr. Wrth ymweld, mae synau rhyfel yn atsain yng nghlustiau’r bardd – synau rhyfeloedd heddiw yn ogystal â synau’r Rhyfel Mawr. Ac mae’r arswyd hefyd yn dal yn fyw: Clywn rethreg o bob pegwn Yn un floedd mewn lle fel hwn, A gynnau angau yn hel Yr ifanc draw i ryfel. Mae digon o enghreifftiau yn y gyfrol o’r ddawn brin i ail-greu naws, lle a chyfnod fel hyn. Yn ‘Ffoi’, cywydd am y Garn Goch, Bethlehem, ceir atgof dychmygus o’r cyfnod Neolithig ar y naill law, ac yna atgof gwirioneddol o naws ac awyrgylch noson buddugoliaeth fawr Gwynfor Evans ar sgwâr Caerfyrddin. Crybwyllais eisoes ddawn Geraint Roberts i greu epigramau trawiadol. Mae eraill mewn gwell lle na fi i ymhelaethu ar ei orchestion cynganeddol, ond tynnwyd fy sylw gan ddefnydd dychmygus a gwreiddiol o’r gynghanedd fwy nag unwaith, e.e. yn ‘Fflamau’ i gofio’r blits ar Abertawe, ‘Hed uffern y Luftwaffe/yn ei dro nôl dros y dre’. Gall fod yn grefftus iawn yn ei ddefnydd o ddelweddau hefyd, fel y mae yn yr englynion milwr am Boston, ‘Llwybr Rhyddid’ wrth gysylltu lliw coch y llwybr sy’n coffáu’r frwydr am ryddid a’r gwaed a gollwyd, ac sy’n dal i gael ei golli, a chochni ‘rhwyg y wawr’: Daw aberth a hen werthoedd, rhwyg y wawr a’i liw ar goedd i waedu ar y strydoedd. Gallwn sôn hefyd am ei hoffter o’r ddelwedd estynedig – un thema yn cael ei chynrychioli gan un ddelwedd, a’r ddelwedd honno’n cael ei hymestyn ar hyd y gerdd yn amrywiadau ar y thema. Gwneir hyn, er enghraifft, yn y gyfres o englynion milwr, ‘I Gyfarch y Parch Meirion Sewell’, saer maen a fu’n weinidog am dros 50 mlynedd. ‘Galwad i adeiladu’ a gafodd, ac mae’r gerdd yn manteisio’n llawn ar y ddelwedd gyda’r geiriau cŷn, naddu, sail, trywel, lefel, wal, mesur, crefft, hogi, llwch, morthwyl, muriau, meini, creu i gyd yn cael lle ynddi. Desg Lydan yw teitl y gyfrol, gan mai addysg fu cylch gyrfa’r awdur a chan i addysg roi ehangder cyfle iddo fel i sawl un ohonom, o gymharu â’n teidiau a’n neiniau. Eang yw dawn yr awdur hefyd. -- Glenys M Roberts @ www.gwales.com
ISBN: 9781911584346
Dimensions: unknown
Weight: unknown
112 pages