Awen Drwy'r Storïau, Yr - Cerddi'n Seiliedig ar Chwedlau

Cyhoeddiadau Barddas author Martin Crampin illustrator Mari George editor

Format:Hardback

Publisher:Cyhoeddiadau Barddas

Published:3rd Mar '20

Should be back in stock very soon

Awen Drwy'r Storïau, Yr - Cerddi'n Seiliedig ar Chwedlau cover

An elegant volume comprising ancient and brand new poems - all inspired by legends from Wales.

Cyfrol gain sy'n cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a nifer o batrymau Celtaidd o lawysgrifau canoloesol, wedi eu haddasu gan Martin Crampin. Llyfr anrheg i unrhyw un sydd am bori ym myd y chwedlau. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Twyllodrus fyddai meddwl am y gyfrol hon fel casgliad yn yr ystyr gonfensiynol; mae ôl curadu arni, ac mae’n fwy bwriadol o lawer na phentwr o destunau a wthiwyd rhwng dau glawr ar sail thema gyffredin yn unig. Ond mae yna thema, wrth gwrs, sef chwedlau. Gellid dadlau yn ddiddiwedd am ffiniau chwedl, hanes, myth, a stori, ond llwydda’r gyfrol hon i fwrw’r rhwyd yn eang heb golli ei min. Ceir straeon cyfarwydd y Mabinogi; ceir chwedlau mwy lleol fel Gwrach Cors Fochno; a cheir yr elfennau hynny o’n hanes sydd wedi codi uwchlaw ffaith ac ymgorffori rhyw ddyhead a delfryd mwy, megis lladd Llywelyn Ein Llyw Olaf; ond ceir hefyd ffigyrau ein llên gwerin a darodd dant ym meddwl gwlad megis Twm Siôn Cati, a hefyd ffigyrau megis Santes Dwynwen sy’n troedio ffin amwys rhwng seiliau hanesyddol a’r dychymyg. Cerddi ar y cyfan yw’r arlwy, ond mae hefyd ddetholiadau rhyddiaith (aralleiriadau o hen destunau’r Mabinogi, er enghraifft), a hefyd ddetholiad o’r ddrama ‘Blodeuwedd’ gan Saunders Lewis. Mae hyn yn sicrhau bod rhythm y casgliad yn amrywio ac yn dolennu, yn hytrach na llifo’n syth at yr aber, fel petai: mae’r detholiadau hŷn yn ymddangos blith draphlith â’r deunydd cyfoes neu weddol gyfoes (sef y mwyafrif o’r cynnwys), ac mae’r cyfosodiadau hyn yn creu ei sylwebaeth ei hun. Mae’r gwahanol oesoedd a chyfnodau yn ymddiddan â’i gilydd rhwng y cloriau, os mynnwch chi, ac yn eplesu ar y cyd, yn ymblethu’n haenau amser. Mae yma ystod eithaf eang o awduron: ochr yn ochr â rhai o enwau mawr yr ugeinfed ganrif megis R. Williams Parry, a lleisiau hŷn y sîn farddol megis Alan Llwyd, gwelwn gerddi gan Marged Tudur, Aneirin Karadog, Mererid Hopwood ac Eurig Salisbury, ymysg eraill. Ac o ran y cerddi, mae yna gydbwysedd rhwng cerddi rhydd a cherddi caeth. O fod wedi darllen trwyddynt oll cefais fy atgoffa o ba mor ddwfn yw ein chwedloniaeth – yn ei holl ystyron – a chymaint o danwydd sydd ynddi o hyd i’r dychymyg. Ond cododd pwynt diddorol iawn hefyd ynghylch chwedl a’r cof: beth rydym yn ei gofio neu ei goffáu, a sut rydym yn gwneud hynny? Nid yr un fath fydd chwedloniaeth pawb; ond rhaid hefyd ymgadw rhag troi hanesion anodd yn chwedlau pellennig yn unig. Megis y dywedir gan Jim Parc Nest yn ‘Culhwch a’i Olwen’: ‘Ein tasg ninnau ... troi eu chwedlau’n hanes’. -- Morgan Owen @ www.gwales.com

ISBN: 9781911584339

Dimensions: unknown

Weight: unknown

104 pages