Llyfr Gwyrdd Ystwyth
Format:Paperback
Publisher:Cyhoeddiadau Barddas
Published:13th May '20
Should be back in stock very soon
A long-awaited collection of the latest poems penned by popular poet and scholar Eurig Salisbury. This is his second volume of poems for adults, following on from his first volume Llyfr Glas Eurig in 2008.
Cerddi cyhoeddus yw’r rhain sy’n deillio o’r berthynas rhwng pobl. Tystiant i gwlwm unigolion (cariadon, teulu, cyfeillion) a chwlwm cymdeithas (dathlu, marwnadu, coffáu a chystadlu). Rhwng y ddeupen annatod hyn cawn helaethrwydd o ganu bywiol sy’n dyrchafu ystwythder ein barddoniaeth a’i gallu i addasu ac ymnythu yn ein bywydau o hyd. Fel y gellid disgwyl, cwmpesir cyfoeth o destunau, ond nid digyswllt yw’r cerddi hyn, fodd bynnag; ymddengys themâu penodol yn rheolaidd, a llwydda’r bardd i gynnig ei sylwebaeth ei hun arnynt heb golli golwg ar yr y testun. Un o’r themâu hynny, wrth reswm, yw’r iaith Gymraeg, a thrwy hynny Gymru. Yn y moli mae’r amddiffyn. Amlygir hyn mewn cerddi megis yr englynion i ddathlu pen-blwydd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn ddeg ar hugain (‘Y maes llên yw’r maes lluniaidd, / Ymchwil yw’r grym uwchlaw’r gwraidd’); y Gymraeg ym Margoed (‘Hon yw’r fro, rhain yw’r broydd / Sy’n pennu ffawd yfory’); dysgu’r iaith (‘Tyrd i flasu’r ddaear hon / Ar dy dafod newydd sbon’); a nifer o gerddi eraill, weithiau’n echblyg, weithiau’n ymhlyg. Dyma gorffori agwedd ddirfodol yn y canu mewn modd anymwthiol a chelfydd. Clymir cyd-destun wrth ddelwedd heb fod angen traethu. Ond un o’r pethau mwyaf diddorol am y gyfrol hon, ar wahân i’r cynganeddu medrus iawn, yw’r modd diymhongar yr ymdrwytha yn y traddodiad barddol, a’i gyflwyno ar wedd gyfoes. Enghraifft dda o hyn yw’r gerdd i’r cyflwynydd Iwan Griffiths, ac yn benodol, ei farf. Cawn ddychan coeth, geiriau cyfansawdd, a chadwyni delweddau afieithus: ‘Rhocyn y wên a’r can wot, / Wyt arch-wenwr trichanwot’; ac yn y man, ddiweddglo sydyn, brathog: ‘I’r farf fain rhof, ar f’enaid, / Unsill i gloi’r pennill – paid!’ Dyma ganu llyfn sy’n nes at ddelfryd dychan y Cywyddwyr. Mae yma ymwybod cryf â’r traddodiad, ond nid yw’n hynafol; dyma draddodiad yn ein hiaith heddiw, ar delerau heddiw; traddodiad sy’n newid i gyflawni anghenion yr oes. Caiff Aberystwyth le amlwg yn y gyfrol, ac mae gogwydd y bardd gwlad weithiau i’r cerddi amdani; ond eto, gwna’r bardd hyn ar ei delerau cyfoes ei hun, megis mewn cerdd i Aber-ddiblastig (‘... byddwn ryw dro’n / rhydd o iau’r pecynnau caeth, / rhydd o boen gorddibyniaeth’). Mae hefyd drwch o gerddi teimladwy ac urddasol, yn farwnadau, yn ddathliadau (‘Caf ddal yn dynn yn nwylo gwraig / Sy’n graig ym mrig yr eigion’), a cherddi rhyngwladol, llydan eu gorwelion. Dyma gerddi i’w datgan a’u cofio. -- Morgan Owen @ www.gwales.com
ISBN: 9781911584285
Dimensions: unknown
Weight: unknown
112 pages