DownloadThe Portobello Bookshop Gift Guide 2024

Byd Gwynn - Cofiant T. Gwynn Jones 1871-1949

Alan Llwyd author

Format:Hardback

Publisher:Cyhoeddiadau Barddas

Published:4th Dec '19

Should be back in stock very soon

Byd Gwynn - Cofiant T. Gwynn Jones 1871-1949 cover

A pioneering and comprehensive biography of the life and work of poet, writer and scholar T. Gwynn Jones (1871-1949). Alan Llwyd is one of our most well-known and respected poets and has won the National Eisteddfod's chair on three occasions.

O glywed bod y rhyfeddol Alan Llwyd – awdur cofiannau rhai o brif lenorion Cymru – yn bwriadu cyhoeddi cofiant i T. Gwynn Jones, fe’m synnwyd braidd. Oni chyhoeddodd David Jenkins gampwaith o gofiant manwl iddo yn 1973? Beth bynnag oedd troeon meddwl Alan – a diau fod ei edmygedd mawr o Gwynn Jones yn gymhelliad – y canlyniad fu’r gyfrol hon o fwy na 500 tudalen, dros gan tudalen yn hwy na chyfrol David Jenkins. Mae’n anorfod fod y ddau gofiannydd wedi defnyddio rhai o’r un ffynonellau. Ond mae gwahaniaeth pendant rhyngddynt hefyd, un mwy sylfaenol na’r gwahaniaeth yn hyd eu cyfrolau. Y prif wahaniaeth yw’r gofod eithriadol hael a rydd Alan Llwyd i eiriau Gwynn Jones ei hunan: prin iawn yw tudalennau’r gyfrol lle na cheir dyfyniad(au) o’i weithiau llenyddol neu ei lythyrau. Gellid dal bod y dyfynnu weithiau braidd yn annethol ac yn rhy faith ac y byddai’r ymdriniaeth yn dynnach a llwybr y darllenydd yn llai llafurus o docio’r gyfrol rai degau o dudalennau. Eto, gellir amddiffyn y dull (a welir yng nghofiannau eraill Alan): diau y byddai Alan yn dadlau ei fod yn dyfnhau amgyffred y darllenydd o athrylith ac o amrywiaeth cwbl ryfeddol gwaith Gwynn drwy ei dynnu ato’n gyson o dudalen i dudalen. Ac mae’r dull hefyd yn hwyluso arfer Alan o gyflwyno sylwadau beirniadol – rhai estynedig ar dro – ar weithiau unigol, boed y rheiny’n gerddi neu’n weithiau rhyddiaith. Fe fydd rhannau arbennig o’r gyfrol yn aros yn fy nghof. Rhagorol yw’r penodau cyntaf sy’n darlunio cefndir cynnar Gwynn ac sy’n llwyddo drwy ddyfynnu i ddangos ei addewid lenyddol rhyfeddol yn llanc. Yn sgil profiad ei deulu – collodd ei dad denantiaeth dwy fferm oherwydd dichell meistri tir Torïaidd – plannwyd gwreiddiau radicaliaeth Gwynn yn gadarn. Os mynnir amgyffred meddylfryd ac ysbryd mudiad byrhoedlog, ond pwysig, ‘Cymru Fydd’ darllener ail bennod y gyfrol sy’n ymdrin â chyfnod Gwynn fel cyw newyddiadurwr ar Y Faner a’r Cymro, pan oedd Emrys ap Iwan a Thomas Gee yn ddylanwadau arno. Un arall o’r uchafbwyntiau i mi oedd yr wythfed bennod ‘Madog a Mabon’ ar flynyddoedd y Rhyfel Fawr, cyfnod anesmwyth i’r heddychwr Gwynn yn hen dref fach filain Brydeinllyd Aberystwyth. Gwna Alan Llwyd gryn ddefnydd o ddyddiadur Gwynn ‘The Diary of a Pacifist’ – dyddiadur Saesneg yn rhyfedd ddigon – i gyfleu ing a thensiynau y blynyddoedd dreng hyn, ond nyddir sawl edefyn arall hefyd yn gelfydd i lunio gwead cyfoethog y bennod hon. Yr oedd Gwynn yn llythyrwr toreithiog ac mae ei lythyrau ymhlith ffynonellau pwysicaf y gyfrol. Gwna Alan ddefnydd helaeth o’i ohebiaeth hirfaith ag E. Morgan Humphreys, hen gyfaill er dyddiau’r ddau yn newyddiadurwyr ar Y Genedl yng Nghaernarfon yn 1908 – 09. Mae Gwynn y llythyrwr tra phigog weithiau: un ‘na wyddai odid ddim, ond sut i osod llyfr ar silff’ oedd John Ballinger, ein Llyfrgellydd Cenedlaethol cyntaf, yn ôl ei was anfoddog (a braidd yn annheg!) o gatalogydd. Ond datgelir meddyliau dwysach hefyd yn nifer o’r llythyrau. Yn ddi-ddadl, bendithiwyd Gwynn Jones â dau gofiannydd galluog. Mewn adolygiad byr fel hwn ni ellir gwneud cyfiawnder â chyfoeth cyfrol hir Alan Llwyd. Yn sicr iawn ymdeimlir o’i darllen ag athrylith T. Gwynn Jones, bardd mawr, ie, ond un yr oedd iddo lawer o dannau eraill hefyd, ieithydd, ysgolhaig, cofiannydd, cyfieithydd, beirniad, nofelydd, storïwr: dyma, yn sicr, un o ffigurau mwyaf gwareiddiad Cymraeg yr ugeinfed ganrif. Gruffydd Aled Williams (Diolch i bapur bro Y Tincer am yr hawl i gopïo'r adolygiad.) -- Cyngor Llyfrau Cymru

ISBN: 9781911584278

Dimensions: unknown

Weight: unknown

448 pages