Rhywbeth i'w Ddweud - 10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016

Hywel Griffiths author Elis Dafydd editor Marged Tudur editor

Format:Paperback

Publisher:Cyhoeddiadau Barddas

Published:26th Jun '17

Should be back in stock very soon

Rhywbeth i'w Ddweud - 10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016 cover

A volume by various contributors that looks at the power of words by exploring 10 influential political Welsh songs recorded between 1979 and 2016. How essential was politics to the Welsh rock scene during the past 30 years and to what extent did these songs challenge the attitudes of the time?

CYFRANWYR Y GYFROL: Un o Gymry Llundain yw Ifor ap Glyn ac mae bellach yn byw yng Nghaernarfon lle mae’n gweithio fel cynhyrchydd teledu. Ers 2016, ef yw Bardd Cenedlaethol Cymru. Mae Pwyll ap Siôn yn gyfansoddwr ac yn Athro mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac mae wedi cyhoeddi ac ymchwilio’n helaeth ym maes cerddoriaeth boblogaidd o Gymru. Bardd a chynhyrchydd teledu yw Nici Beech. Mae’n gapten ar dîm Talwrn Criw’r Ship, yn awdur llyfr ryseitiau, Cegin, ac yn un o sylfaenwyr a threfnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon, Gŵyl Arall a Noson Pedwar a Chwech. Bardd yw Elis Dafydd. Mae’n awdur cyfrol o gerddi, Chwilio am Dân(Cyhoeddiadau Barddas, 2016) ac ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i waith John Rowlands fel rhan o gwrs doethuriaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Bu Hefin Jones yn cadw tafarn Tŷ Newydd, Sarn, pan oedd y lle hwnnw yn un o leoliadau gigs mwyaf poblogaidd y gogledd-orllewin. Yn dilyn hynny bu’n gweithio i’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig. Mae’n un o un o gyfarwyddwyr label Sbrigyn Ymborth. Bardd, ymchwilydd a pherfformiwr yw Aneirin Karadog. Bu’n aelod o’r Genod Droog a'r Diwygiad ac mae wedi cyfrannu at amryw o albymau cerddorol, gyda Llwybr Llaethog, Cofi Bach a Tew Shady. Bu hefyd yn rhan o brosiect Y Datgyfodiad, a greodd albym gysyniadol am Sombis. Griff Lynch yw prif leisydd Yr Ods. Mae’n cynhyrchu’r rhaglen gerddoriaeth, Ochr 1 ar S4C ac ef oedd yn gyfrifol am Canu Protest Merched Mewn Pop (Radio Cymru) oedd yn edrych ar gyfraniad merched i’r byd cerddorol Cymraeg a rhyngwladol ar hyd y degawdau. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Wrth glywed am ddyfodiad y gyfrol yma gyntaf, rhaid cyfaddef ’mod i wedi gwingo rhywfaint. Mae ‘canu gwleidyddol Cymraeg’ yn bwnc sydd wedi ei drafod hyd syrffed dros y blynyddoedd, ac roeddwn yn ofni mai’r un hen drafodaeth flinedig fyddai yma eto ynglŷn ag oes aur y canu protest a sut mae hynny wedi diflannu dros y blynyddoedd diwethaf. Rhyddhad mawr, felly, oedd darganfod cyfrol oedd yn cynnig dehongliad ychydig bach yn wahanol, a chyfres o gyfraniadau difyr a dadlennol yn trafod beth sy’n gwneud cân wleidyddol. Ac mae’r farn yn amrywio. Ydyn, mae rhai o’r usual suspects yma, y caneuon amlwg – ‘Gwesty Cymru’ gan Geraint Jarman, ‘Tân yn Llŷn’ gan Plethyn ac wrth gwrs ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan ac Ar Log – ond mae hyd yn oed yr ysgrifau am y rhain yn cynnig onglau newydd sy’n gwneud i chi feddwl eto am eu negeseuon. Mae’r fformat yn helpu: y cyfranwyr sy’n dewis y caneuon maen nhw’n eu trafod, yn hytrach na thestun wedi’i osod gan y golygyddion. Mae’r blynyddoedd dan sylw yn helpu hefyd, 1979–2016, cyfnod sy’n dilyn ‘oes aur’ y canu protest Cymraeg traddodiadol. Wedi dweud hynny, dyma gyfnod sy’n pontio dau refferendwm datganoli go wahanol, ynghyd â dwy lywodraeth Dorïaidd lawdrwm. Gwir lwyddiant y gyfrol ydy’r caneuon annisgwyl sy’n cyrraedd y rhestr, yn enwedig efallai’r rhai mwyaf diweddar sy’n cloi’r casgliad o ysgrifau. Mae Dyl Mei yn fwy cyfarwydd am ei sylwadau bachog ar raglen Tudur Owen, ond yma mae wedi cyflwyno chwip o ddadansoddiad treiddgar o’r hit feiral, ‘Talu Bills’ gan Rodney Evans. Cysylltir canu gwleidyddol Cymraeg yn aml â brwydr yr iaith, ond mae hon, a sawl ysgrif arall yn y gyfrol, yn dangos bod ystod llawer ehangach gan ein cerddorion. Ac yna mae darn Nici Beech, yn trafod ‘Cyn i’r lle ’ma gau’ gan y Bandana, yn dangos sut gall dehongliad y gwrandäwr o gân amrywio. Go brin bod llawer wedi ystyried hon fel cân wleidyddol cyn hyn, ond mae ymdriniaeth ardderchog Nici yn sicr yn gwneud i chi feddwl ddwywaith am neges caneuon. Dyma lwyddiant y gyfrol i mi – mae’n gwneud i chi feddwl am ganeuon na fyddech chi, efallai, heb lawn ystyried eu neges yn flaenorol, gan hefyd wfftio’r honiad nad oes sylwebaeth wleidyddol yng nghaneuon ein cerddorion ifanc. -- Owain Schiavone @ www.gwales.com

ISBN: 9781911584049

Dimensions: unknown

Weight: unknown

104 pages