Sgramblo

Huw Davies author Huw Davies translator Elinor Wyn translator Elinor Wyn editor

Format:Paperback

Publisher:Firefly Press Ltd

Published:15th Oct '18

Should be back in stock very soon

Sgramblo cover

Fourteen-year-old 'model pupil' Davidde (his parents had trouble spelling) lives with his dad after his mother died. But when a new headteacher starts at his South Wales valleys school, Davidde is unfairly labelled a troublemaker. To the horror of his teachers, Davidde finds a new passion for mortorcycle scrambling. He takes on the school bullies, but soon events threaten to overwhelm him.

Cyn mynd ati i ddarllen Sgramblo roeddwn i eisiau gwybod mwy am yr awdur gan fod ei enw’n ddieithr i mi. Darganfyddais mai athro uwchradd ydoedd oedd â’r farn nad oedd digon o ‘lyfrau gwirion i fechgyn gwirion’ i’w cael. Grêt, meddyliais. Rhywun sydd â phrofiad o weithio gyda phlant sydd ddim am greu rhywbeth cymhleth ofnadwy. Gyda hyn mewn cof, es ati i ddarllen. Mae’r stori’n llifo’n dda a’r cymeriadau yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd. Ga i ddweud ar y cychwyn fan hyn hefyd nad llyfr i fechgyn yn unig ydyw – mae yna ferched â chymeriadau cryf yn y stori’n ogystal, a phwy sydd i ddweud nad yw merched yn hoffi motobeics?! Oherwydd sillafu gwael ei rieni, mae’r prif gymeriad yn derbyn yr enw Davidde. Mae’n ddisgybl disglair ac yn gwneud yn dda iawn yn yr ysgol. Ond wrth gwrs mae yna fwlis sy’n llwyddo i wneud ei fywyd yn anodd. Dydy hyd yn oed y prifathro newydd (sydd yn gymeriad rhyfedd iawn, a dweud y lleiaf) yn helpu dim ar y sefyllfa, ac os rhywbeth mae'n gwneud pethau’n waeth i Davidde drwy ei ddrwgdybio. O ddeall teitl y llyfr a gweld llun y clawr, dyw hi ddim yn syrpreis, felly, i ddarllen fod Davidde yn cychwyn sgramblo motobeics wrth brynu motobeic ail-law yn hytrach na’r telesgop yr oedd ei gymydog Mr Leyshon yn awyddus iddo brynu. Gyda hyn mae’n llwyddo i dalu’n ôl i’r bwli Lyndon a gwelwn y berthynas rhyngddo a’i dad yn gwella hefyd wrth iddo ennill ei barch am ddilyn yr un hobi â'i dad pan oedd hwnnw'n grwt. Mae’r berthynas hon rhwng tad a mab yn greiddiol i’r stori wrth inni ddeall fod marwolaeth mam Davidde yn golygu mai ei dad yn unig sy’n ei fagu, ac yn ceisio gwneud ei orau o'r sefyllfa anodd. Dilynwn helyntion Davidde wrth i’r rasus wibio heibio o un i un, ac wrth i Davidde hefyd geisio parhau i wneud yn dda gyda’i waith ysgol. Ceir ambell dro annisgwyl tua diwedd y stori, a daw cyfrinach y Marchog Du i’r amlwg erbyn y bennod olaf. Gwyliwch na chollwch chi hi! A yw’r awdur, felly, wedi llwyddo gyda’i fwriad i ysgrifennu ‘llyfr gwirion’? Ydi, ddwedwn i, ond un darllenadwy dros ben! Mwynhewch. -- Gareth James @ www.gwales.com

ISBN: 9781910080962

Dimensions: 198mm x 129mm x 15mm

Weight: unknown

160 pages