Darnau o Fywydau
Format:Paperback
Publisher:Cyhoeddiadau Barddas
Published:9th Apr '09
Should be back in stock very soon
The latest poetry collection by Alan Llwyd since 2005, when Clirio'r Atig a Cherddi Eraill was published. This new volume includes the poems commissioned for the arts and crafts events at the National Eisteddfod of Wales, Swansea, 2006. Although this collection has a unity regarding its themes, the metres of the poems vary. Alan Llwyd has won three national chairs
Dyma gyfrol amrywiol ei phynciau a’i mydryddiaeth gan un sy’n feistr ar ei grefft. Daw ei theitl o’r gerdd ‘Lluniau Teuluol’, sy’n sôn amdano ef a’i gymar yn ceisio rhoi trefn ar hen ffotograffau o ddwy ochr y teulu – ‘darnau o fywydau a fu’. Mae amser, yr hen fedelwr, yn aros ei dro ym mhob llun, a chânt fod eu henwau hwythau wedi eu nodi eisoes ar gefn ambell un. A’r bardd newydd groesi’r trigain oed, mae marwoldeb a threigl amser yn bwrw eu cysgod dros amryw o’r cerddi. Cerdd rymus yw honno i ‘Genhedlaeth Goll’ y Rhyfel Mawr lle gwêl lygaid cyhuddgar y bechgyn yn syllu’n ôl o hen bapur newydd, a phob colofn o enwau anghofiedig yn gofgolofn i’r meirwon. Ond drwy rym atgof a chelfyddyd mae modd herio amser, ac mae’r cerddi coffa sydd ymhlith uchafbwyntiau’r gyfrol yn ddathliadau llachar o fywydau coll. Cerddi felly yw ei deyrnged i’w fam-yng-nghyfraith, ‘Elaine’, a’i atgofion twymgalon am ei gyfaill o fardd, y Tad John FitzGerald. Mae’r englynion er cof am Anwen Tydu yn farwnad ingol i ferch o linach y Cilie a fu farw’n greulon o ifanc. Ceir amryw o gerddi i lenorion eraill, ac englynion cofiadwy yn eu plith fel y rheini i Jon Meirion Jones a Gwyn Thomas. Yn yr englynion i’r diweddar Kyffin Williams gwelwn Alan Llwyd yr englynwr ar ei orau, a’i weledigaeth yn un â’r gynghanedd: Mapio’i wlad â’i baentiadau; â phaent tew ffinio tir ei dadau; mapio’i iaith â’i gampweithiau, ailwreiddio’i hil i’w rhyddhau. Datganiad o’n hunaniaeth yw’r gerdd, yn wyneb y math o fygythiad a ddisgrifir yn y gerdd i Lyn Tryweryn lle teimla’r bardd ‘holl bwysau’r dŵr le bu siarad iaith’. Perthyn hon i adran o wyth o gerddi sy’n ymateb i rai o ddelweddau arddangosfa gelf a chrefft Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006. Mae ei ddehongliad o ddelweddau darniog Simon Holly o ddau o eiconau’r ugeinfed ganrif, Muhammad Ali a Marilyn Monroe, yn briodas arbennig o ddiddorol rhwng gair a delwedd. Myfyrdod aeddfed (a thra phersonol yn aml) a chrefft loyw, dyna gyfrinach Alan Llwyd, ac mae’r casgliad hwn ymhlith ei oreuon. -- Huw M. Edwards @ www.gwales.com
ISBN: 9781906396114
Dimensions: unknown
Weight: unknown
68 pages