DownloadThe Portobello Bookshop Gift Guide 2024

Darllen y Dychymyg

Creu ystyron newydd i blant a phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

Siwan M Rosser author

Format:Paperback

Publisher:University of Wales Press

Published:15th Dec '20

Should be back in stock very soon

Darllen y Dychymyg cover

• Dyma’r gyfrol gyntaf i ymdrin â hanes a datblygiad llenyddiaeth plant yn y Gymraeg. • Drwy fanylu ar ddechreuadau llenyddiaeth Gymraeg i blant, mae’r astudiaeth yn mynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol a diwylliannol a greodd ystyron newydd i blant a phlentyndod yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. • Bydd yn apelio at ddarllenwyr sy’n ymddiddori mewn llenyddiaeth, hanes addysg a phlentyndod.

Mae'r gyfol hon yn cynnig yr astudiaeth gyflawn gyntaf o lenyddiaeth plant yn y Gymraeg a'i harwyddocad cymdeithasol a diwylliannol.Erbyn hyn, mae llyfrau i blant ymhlith gwerthwyr gorau'r diwydiant cyhoeddi ac yn rhan ganolog o addysg pob plentyn yng Nghymru. Ond prin yw'r sylw beirniadol a gafodd hanes a datblygiad llenyddiaeth plant yn y Gymraeg. Mae'r gyfrol hon yn mynd i'r afael a'r tawelwch hwnnw ynghylch llenyddiaeth plant yn ein hanes cenedlaethol, gan ddadlau dros ei harwyddocad cymdeithasol a diwylliannol. Drwy fanylu ar ddechreuadau llyfrau a chylchgronau i blant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dengys y gyfrol hon fod llenyddiaeth plant yn hanfodol bwysig er mwyn deall sut mae syniadau ac agweddau'n cael eu trosglwyddo a'u trawsffurfio. Ymdrinnir yn bennaf ag agweddau tuag at blant a phlentyndod, gan olrhain y modd yr esblygodd y cysyniadau hynny o dan bwysau trawsnewidiadau economaidd a diwyllianol yr oes. Yng ngoleuni cysyniadau beirniadol Pierre Bourdieu a Michel de Certeau, archwilir y ffactorau oedd cyflyru awduron i ysgrifennu ar gyfer plant yn y lle cyntaf, a'r hyn oedd yn siapio eu hagweddau tuag at eu darllenwyr ifainc. Drwy wneud hynny, mae'r astudiaeth hon yn gosod carreg sylfaen ar gyfer astudio llenyddiaeth plant yn y Gymraeg a'i pherthynas a'i hamgylchfyd hanesyddol a diwylliannol.

ISBN: 9781786836502

Dimensions: unknown

Weight: unknown

336 pages