Cyfri’n Cewri
Hanes Mawrion ein Mathemateg
Format:Paperback
Publisher:University of Wales Press
Published:1st Jul '20
Should be back in stock very soon
• Mae mathemateg yn rhywbeth i bawb a Cyfri’n Cewri yn llyfr i bawb. A fydd yn fodd i bobl dderbyn mathemateg fel rhan naturiol o’r diwylliant Cymreig. • Mae Cyfri’n Cewri yn hawdd ei ddarllen gan achosi i chi wenu, i golli ambell ddeigryn, ac i grafu’ch pen o dro i dro. • Mae’r llyfr yn dangos bod mathemateg yn ffrwyth gwaith pobl o gig a gwaed gyda’u hemosiynau a’u teimladau, fel pawb arall.
Darganfyddwch pam y mae mathemateg yn rhan naturiol a phwysig o’n diwylliant, yn gyfochrog â chanu a barddoni, a pham y mae hanes ein mathemateg yn rhan mor bwysig o’n treftadaeth.Mae Cyfri’n Cewri yn dathlu bywyd a gwaith mathemategwyr a gysylltir â Chymru. Pan gyfansoddwyd yr anthem genedlaethol ym 1856, roedd Cymru ym merw y Chwyldro Diwydiannol, gyda chymdeithasau gwyddonol yn codi fel madarch ar hyd a lled y wlad. Erbyn diwedd y ganrif, roedd ein dehongliad o’n diwylliant fel un sy’n cynnwys y gwyddorau yn ogystal â’r celfyddydau wedi culhau i gynnwys barddoniaeth, cerddoriaeth a chrefydd ar draul bron i bopeth arall. Yn dilyn poblogrwydd ei gyfrol Mae Pawb yn Cyfrif, mae’r awdur yma’n defnyddio’r un arddull i’n gwahodd i ymfalchïo yn ein mathemategwyr ac i ddangos sut y mae’r rhod wedi troi.
ISBN: 9781786835949
Dimensions: unknown
Weight: unknown
171 pages