Y Dychymyg Ol-Fodern

Agweddau ar ffuglen fer Mihangel Morgan

Rhiannon Marks author

Format:Paperback

Publisher:University of Wales Press

Published:15th Aug '20

Currently unavailable, and unfortunately no date known when it will be back

Y Dychymyg Ol-Fodern cover

* Beirniadaeth Greadigol a geir yma felly mae'n cynnig dadansoddiad o waith Mihangel Morgan ac ol-foderniaeth mewn modd creadigol a darllenadwy - yn wir, mae'n ddarn o ffuglen ynddo'i hun, ac felly'n addas a gyfer cynulleidfa nad ydynt o reidrwydd yn rhan o'r byd academaidd. * Dyma'r astudiaeth estynedig gyntaf o waith Mihangel Morgan - llenor y mae ei waith yn ddigon astrus i'w ddadansoddi ar brydiau. Dyma hefyd yr astudiaeth gyntaf ers degawdau sy'n rhoi sylw penodol i'r stori fer Gymraeg. * Bydd yn ganllaw da i ddisgyblion a myfyrwyr sy'n astudio. Astudir gwaith Mihangel Morgan gan fyfyrwyr sy'n astudio Cymraeg Uwch Gyfrannol a Safon Uwch, ac ar lu o gyrsiau Prifysgol. Gobeithio y bydd y llyfr yn gymorth iddynt ddeall rhagor am y llenor nodedig hwn.

Dyma gyfrol sy'n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor cyfoes Mihangel Morgan. Mae'n arbrofi a beirniadaeth greadigol er mwyn cyfleu cysyniadau ynghylch llenyddiaeth mewn modd sy'n ddealladwy ac yn ddarllenadwy ar gyfer cynulleidfa greadigol ac academaidd fel ei gilydd.Cyfrol arbrofol o feirniadaeth greadigol yw hon, sy'n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor nodedig Mihangel Morgan (1955-). Hon yw'r astudiaeth estynedig gyntaf o'i waith, a rhoddir sylw penodol i'r wyth cyfrol o ffuglen fer a gyhoeddodd rhwng 1992 a 2017 - cyfnod lle gwelwyd datblygiadau arwyddocaol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Eir i'r afael a phynciau megis ffurf y stori fer, realaeth, moderniaeth ac ol-foderniaeth, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i'r astudiaeth cynigir golwg ehangach ar ddatblygiad a derbyniad ffuglen fer ol-fodernaidd Gymraeg a'i harwyddocad i'n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg a beirniadaeth lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio'r ffin dybiedig rhwng 'ffaith' a 'ffuglen'. Dilynir hynt a helynt y cymeriad ffuglennol Dr Mari Non yn ei swydd brifysgol, law yn llaw a thrafodaeth ar ddarnau o ffuglen fer Mihangel Morgan, gan agor y drws ar ddeongliadau newydd o waith yr awdur.

ISBN: 9781786835901

Dimensions: unknown

Weight: unknown

208 pages