Creu Dinasyddiaeth i Gymru
Mewnfudo Rhyngwladol a'r Gymraeg
Format:Paperback
Publisher:University of Wales Press
Published:15th Apr '20
Currently unavailable, and unfortunately no date known when it will be back
• Ymdriniaeth gyntaf mewn llyfr sydd yn ystyried cyfraniad mewnfudwyr rhyngwladol i’r Gymraeg a sut mae hyn yn cyfrannu at ddinasyddiaeth genedlaethol Gymreig i Gymru’r dyfodol. • Mae’n datgelu nifer o safbwyntiau gan fewnfudwyr, tiwtoriaid a swyddogion llywodraethol sydd yn cadarnhau dylanwad y wladwriaeth Brydeinig ar ideolegau unigolion. • Mae’n herio rhagdybiaethau'r gymuned groeso am berthynas mewnfudwyr a’r Gymraeg a’r gallu i ddysgu’r iaith.
Mae’r llyfr yn disgrifio sut y mae mewnfudwyr yn ymateb i ddysgu Cymraeg, a beth yw ymatebion y gymuned groeso yng Nghymru i fewnfudwyr yn dysgu Cymraeg; cymherir hyn gyda pholisïau Llywodraeth Prydain a rhai Llywodraeth Cymru.Dyma’r gyfrol gyntaf sydd yn ymdrin â mewnfudo rhyngwladol, cymunedau Cymru a’r Gymraeg o safbwynt ieithyddol a chymdeithasol. Ers dechrau’r ganrif, cafwyd trafodaethau cynyddol am ddyfodol amrywiaeth mewn nifer o wladwriaethau, gan gynnwys Prydain a Chymru. Mae’r gyfrol hon yn mynd ati i drafod sut y mae llywodraethau ac athronwyr cyfoes wedi ymwrthod ag amlddiwylliannedd tra yn chwilio am ffyrdd newydd o uno pobl trwy iaith a diwylliant. Wrth drafod y cyd-destun damcaniaethol a pholisi, mae’r gyfrol yn tynnu ar ymchwil empeiraidd gyda mewnfudwyr, tiwtoriaid iaith a swyddogion llywodraethol Cymru, i ddatgelu safbwyntiau am integreiddio yng Nghymru ac i herio rhagdybiaethau am berthynas mewnfudwyr a’r Gymraeg. Daw cymhlethdod sefyllfa iswladwriaethol Cymru i’r brig wrth i Lywodraeth Cymru ddatgan cefnogaeth dros ddwyieithrwydd, tra bod polisïau’r Wladwriaeth Brydeinig yn haeru polisi mewnfudo a dinasyddiaeth homogenaidd ac unieithog. Mae’r gyfrol yn awgrymu llwybr posibl i Gymru, felly, sef diffinio dinasyddiaeth amlethnig Gymreig a Chymraeg ei hun.
ISBN: 9781786835369
Dimensions: unknown
Weight: unknown
144 pages