Yr Anymwybod Cymreig

Freud, Dirfodaeth a’r Seice Cenedlaethol

Llion Wigley author

Format:Paperback

Publisher:University of Wales Press

Published:15th Jun '19

Currently unavailable, and unfortunately no date known when it will be back

Yr Anymwybod Cymreig cover

1. Y llyfr hwn fydd yr ymdriniaeth fanwl cyntaf o'r ymateb Cymraeg i syniadau Sigmund Freud a seicdreiddiad yn gyffredinol yn y cyfnod o hanner canrif rhwng 1920 a 1970 a hefyd yr ymdriniaeth gyntaf benodol o'r ymateb i ddirfodaeth yng Nghymru. Bydd yn codi cwr y llen i ddarllenwyr ar y cyfoeth o erthyglau, cyfrolau ac ysgrifau a gyhoeddwyd yn y cyfnod hwn yn y Gymraeg sy'n delio gyda syniadau heriol, cyffrous rhyngwladol fel seicdreiddiad a dirfodaeth. 2. Mae'n gyfrol ryngddisgyblaethol sy'n cwmpasu hanes, seicoleg, llenyddiaeth ac athroniaeth. 3. Mae'r gyfrol yn rhoi sylw manwl i waith awduron pwysig Cymraeg o hanner gyntaf yr ugeinfed ganrif yn arbennig sydd wedi cael eu hesgeuluso neu eu hanghofio yn gyffredinol, megis Elena Puw Morgan, Gwilym O. Roberts a Harri Williams. 4. Ceisir dangos perthnasedd a phwysigrwydd rhai o'r syniadau a drafodwyd yng ngweithiau'r awduron sydd dan sylw yn y gyfrol i ddadleuon cyfoes ynglyn ag iechyd meddwl, gwleidyddiaeth a hunaniaeth Gymreig.

Mae’r gyfrol hon yn rhoi cipolwg ar gyfoeth hanes syniadau yng Nghymru dros hanner canrif cynhyrfus rhwng diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a marwolaeth yr athronydd disglair J. R. Jones ym 1970. Bu Jones yn rhan ganolog o’r ymgais a wnaed yn y cyfnod i gyflwyno syniadau newydd, heriol a chwyldroadol o feysydd fel seicdreiddiad a dirfodaeth i’r diwylliant Cymraeg. Adeiladodd meddylwyr ac ysgolheigion tebyg iddo ddarlun o’r anymwybod Cymreig mewn gwaith sydd o gymorth parhaol i ddeall ein profiadau hanesyddol a gwleidyddol fel cenedl. Trwy ddadansoddi sut yr ymatebodd awduron Cymraeg i syniadau Freud, Jung, Sartre, de Beauvoir ac eraill, lleolir hanes deallusol y Gymru Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol eang. Ceisir ymhellach ddangos perthnasedd a phwysigrwydd y dehongliad Cymraeg o rhai o’r syniadau hyn i ddadleuon cyfoes ynglˆyn ag iechyd meddwl, gwleidyddiaeth ac hunaniaeth yng Nghymru. Ymatebodd cenhedlaeth o awduron i’r argyfwng dirfodol a wynebai’r diwylliant Cymraeg yn y cyfnod dan sylw trwy ddangos ymrwymiad a phenderfyniad i gymhwyso ac addasu’r datblygiadau deallusol mwyaf modern er mwyn ceisio goresgyn yr argyfwng mewn modd sy’n parhau’n ysbrydoliaeth heddiw, yng nghysgod Brexit a thwf awdurdodaeth.

ISBN: 9781786834454

Dimensions: unknown

Weight: unknown

160 pages