Ysbryd Morgan

Adferiad y Meddwl Cymreig

Huw Williams author

Format:Paperback

Publisher:University of Wales Press

Published:15th Dec '20

Should be back in stock very soon

Ysbryd Morgan cover

• Ceir ynddi cyflwyniad bras a beirniadaeth gyffredinol o athroniaeth wleidyddol modern, sydd yn fan cychwyn er mwyn deal natur ddeallusol yr heriau sydd yn ein hwynebu heddiw. • Mae’n cyflwyno un fersiwn o hanes Cymru (gan ragdybio bod y fath beth yn bod) – hanes deallusol Cymru, a honno yn un stori cwmpasog o’n hetifeddiaeth ‘celtaidd’ hyd at y dydd heddiw • Awn ar stori ffantasiol yng nghwmni ferch o’r enw Ceridwen, sydd yn cyflwyno ni i gyfeillion annhebygol sydd yn adrodd ar fawrion y genedl a’n traddodiadau deallusol a gwleidyddol, gan ein hannog ni i adfer y meddwl Cymreig. • At ei gilydd, ceir yn y testun hwn galwad i ymateb i argyfwng gwleidyddol ac ysbrydol ein hoes, a hynny trwy y traddodiad radical, sosialaidd Cymreig, sydd mor nodweddiadol o’n hanes a’n hunan-ddealltwriaeth hyd y dydd heddiw.

Wynebwn heddiw argyfyngauhinsawdd, gwacter ystyr, ac ymchwydd asgell dde ddigyfaddawd. Dyma destun sy'n olrhain hanes deallusol radical Cymru yng nghwmni merch o'r enw Ceridwen, sy'n ein hannog fel darllenwyr i ailafael mewn etifeddiaeth ddeallusol Gymreig yn wyneb heriau'r dydd.Dyfal ond dychmygus, caiff Ceridwen ei lluchio i sefyllfa ddirdynnol ym mherfeddion y canolbarth, a hithau a'i mam yn gofalu am ei Gransha yn ei ddyddiau olaf, yn hen dyddyn y teulu. Gyda'r byd yn datgymalu o'u cwmpas ceir cyfle i ddianc i'r dychymyg gyda chymorth Nain, a wnaeth adael casgliad amrywiol o lyfrau pan fu farw i Ceridwen. Trwy'r trysorau hyn y mae Ceridwen yn cwrdd a chyfres o gymeriadau annisgwyl, sydd yn canu am hanesion a syniadau o'r henfyd i'r presennol, ac yn agor drws iddi ar fyd llawn cwestiynau a myfyrdodau ar ei chyflwr hithau, ei chenedl a'r byd tu hwnt. Wrth ddilyn hynt yng nghwmni ei chyfeillion yr hyn a elwir gan Ceridwen yn 'Ysbryd Morgan', daw'n hysbys iddi fod gobaith i'w ganfod yng ngwedd bruddglwyfus ei theulu a'i chymdeithas, ond i'w ganfod mae'n rhaid cysylltu gyda'r gorffennol, tra yn dechrau o'r newydd. Nawr, yn y dilyniant yma i Credoau'r Cymry (2016), mae Huw Lloyd Williams yn cyflwyno hanes deallusol o Gymru sy'n trin y seiliau syniadol sydd wedi ysbrydoli adnewyddu parhaol ein diwylliant yn wyneb argyfyngau oesol.

ISBN: 9781786834195

Dimensions: unknown

Weight: unknown

192 pages