John Morris-Jones
Format:Paperback
Publisher:University of Wales Press
Published:30th Nov '11
Currently unavailable, our supplier has not provided us a restock date
A biography of John Morris-Jones (1864-1929), Welsh grammarian, academic and poet. This book offers a critical analysis of his contribution, as well as a portrait of him as a family man, based on a fascinating series of personal letters to his wife and friends.
"Mae astudiaeth Allan James yn plethu'n llwyddiannus i'w gilydd hanes personol a theuluol John Morris-Jones a dadansoddiad o'i gyfraniad arloesol i ysgolheictod y Gymraeg. Defnyddiodd yr awdur ffynonellau newydd a thra phwysig, yn arbennig y casgliad helaeth o lythyrau John Morris-Jones a gedwir ym Mangor. Mae'r llythyrau hyn yn taflu goleuni ar fywyd bob dydd Syr John, ei fagwraeth a'i hyfforddiant fel ysgolhaig, ei deithiau a'i ddiddordebau a'i ddoniau ymarferol. Teflir goleuni pwysig hefyd ar ei ymwneud ag ysgolheigion eraill, a'i farn, gignoeth weithiau, am waith rhai ohonynt. Mae'r llyfr yn gyflwyniad bywiog a diddorol i fywyd Syr John, ac yn astudiaeth ysgolheigaidd gytbwys a threiddgar o'i gyfraniad fel un o'n hysgolheigion pennaf." Athro Branwen Jarvis "Y mae'r gyfrol hon yn rhoi mwy o gyfle i'r awdur drafod yn llawnach fywyd a gwaith yr ysgolhaig mawr hwn. Gwnaeth hynny'n rhagorol, gan roi inni olwg ddiddorol iawn ar fywyd Syr John, a chan ddangos inni bwysigrwydd chwyldroadol ei gyfraniad i iaith a llen Cymru, a chan roi inni amcan o'i le fel bardd yn hanes ein llen. Y mae'r cyfan yn seiliedig ar waith ymchwil manwl, sydd yn cynnwys astudiaeth o wahanol agweddau ar gyfraniad cawraidd Syr John i iaith a llen, trwy gyfrwng llyfrau, golygyddiaeth Y Beirniad, myrdd o erthyglau a ymddangsodd mewn amrywiaeth o gylchgronau, a beirniadaethau eisteddfodol. At hyn, y mae Allan James wedi bod yn pori'n ddyfal mewn llythyrau a ysgrifennodd Syr John ei hun, a llythyrau a ysgrifennwyd ato. Trwy gyfrwng y rhain, a sylwadau pobl amdano fe gawn hefyd olwg ar bersonoliaeth y gwron ei hun a'i deulu. Camp arbennig y llyfr hwn yw dangos yn eglur cymaint o Golosws oedd Syr John Morris-Jones, cymaint oedd ei ddylanwad ar fywyd Cymru, a sut y llwyddodd i adfer i'r Gymraeg a'i llenyddiaeth drefn a safon a chywirdeb." Athro Gwyn Thomas "This little volume in the "Writers of Wales" series gives an interesting account of the career of a scholar who contributed an immense amount to the development of Welsh learning in the closing decades of the nineteenth century and the first three of the twentieth ..." -Studia Celtica
ISBN: 9780708324677
Dimensions: unknown
Weight: 386g
384 pages